Yr Hen Iaith (Lefel A) - Marwnad Owain ab Urien

Yr Hen Iaith (Lefel A) - Marwnad Owain ab Urien

Yr Hen Iaith · 2025-04-17
17:12

Edrychwn yn y bennod hon ar un arall o gerddi Taliesin. Roedd y traddodiad mawl yn cynnwys canu clodydd i arweinwyr a fu farw, a dyma a gawn yn y gerdd bwerus hon. Nodwn fod ‘Marwnad Owain’ yn cyfeirio at y fuddugoliaeth sy’n cael ei dathlu yn y gerdd ‘Gwaith Argoed Llwyfain’; teimlir bod campau go iawn dyn go iawn yn cael eu coffáu yma. Yn ogystal â’i allu milwrol, mae’r bardd yn canmol haelioni Owain. Ac wrth graffu ar y geiriau sy’n agor ac yn cloi’r gerdd, pwysleisiwn ei bod hi’n perthyn i gyd-destun cwbl Gristnogol a bod y farwnad hon yn cyfuno mawl gyda gweddi.

**
‘Elegy for Owain son of Urien’

In this episode we look at another of Taliesin’s poems. The praise tradition including paying tribute to dead leaders, and that’s what we have in this powerful poem. We note that this elegy for Owain refers to the victory celebrated in another of Taliesin’s poems, ‘The Battle of Argoed Llwyfain’; there is a sense that the real feats of a real man are being commemorated here. In addition to his military ability, the bard praises Owain’s generosity. And while considering the words which open and close the poem, we stress that it belongs to an entirely Christian context and that this elegy combines praise with prayer.

Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones
Cynhyrchwyd gan: Richard Martin
Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes

Deunydd perthnasol:
- Adnoddau CBAC wedi’u paratoi gan yr Athro Marged Haycock:
https://resource.download.wjec.co.uk/vtc/2018-19/int18-19_1-4/_cym/uned02/03-marwnad-owain.html
https://resource.download.wjec.co.uk/vtc/2009-10/welsh/a-cymraeg/hengerdd/Taliesin/2%20Marwnad%20Owain%20ab%20Urien/MARWNAD%20OWAIN%20AB%20URIEN%20Nodiadau%20geiriau.docx

Yr Hen Iaith

Cyflwyniad hwyliog i hanes llenyddiaeth Gymraeg, gyda, Jerry Hunter, hogyn o’r Midwest yn America yn dysgu Richard Wyn Jones, hogyn o ganolbarth Sir Fôn, am drysorau’i iaith ei hun.

  • No. of episodes: 83
  • Latest episode: 2025-05-01
  • Education

Where can you listen?

Apple Podcasts Logo Spotify Logo Podtail Logo Google Podcasts Logo RSS

Episodes