
Clera Ebrill 2025
Croeso i bennod mis Ebrill o bodlediad Clera. Y mis hwn rydyn ni'n trafod yr hyn sydd ar dân ar wefusau pawb ledled Cymru....teitlau cerddi! Yn ogystal â hynny, cawn Orffwysgerdd hyfryd gan Haf Llewelyn, cerdd o'r flodeugerdd newydd, 'O ffrwyth y Gangen Hon'.. Hefyd rydyn ni'n ddiolchgar iawn am y fraint o gael cynnwys nid dim ond un Ebenezer, ond dau! Diolch i Dylan Ebz am fynd â holi ei dad, Lyn, ynglŷn a'i gyfrol fendigedig newydd, Cerddi'r Ystrad.
Ar ben hyn oll, cawn sgwrsa gyda'r cyn-Fardd Cenedlaethol, Ifor ap Glyn, a hefyd y delicyssi gan Dylan, Tudur Dylan, neb llai. Ac ar ddiwedd y bennod, syrpreis bach ar eich cyfer. mwynhewch!
Clera
Podlediad misol sy'n trafod barddoni gyda'r bwystfil barddol a elwir yn Aneurig (Aneirin Karadog ac Eurig Salisbury)
- No. of episodes: 104
- Latest episode: 2025-04-30
- Arts